Hebrews 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gweddus oedd yddo ef, herwydd pwy y may pob peth, a thrw yr hwn y may pob peth, wrth iddo ddwyn llawer o feibion y ogoniant, gysegru pennadur y cadwadigaeth hwynt trwy ’ovydiau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gweddai Iddo Ef, o herwydd yr Hwn y mae pob peth, a thrwy’r Hwn y mae pob peth, gan ddyfod â llawer o feibion i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddioddefiadau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gweddai iddo ef, yr hwn y mae popeth erddo a phopeth trwyddo, ar ôl iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio pennaeth eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddioddefiadau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Trwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys gweddai iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, pan yn arwain meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau.