Hebrews 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny gan fod y plant yn gyfrannog o gig a gwaed, yntau hevyd yr vn modd a wnaythbwyd yn gyframog or vnrryw, mal y gallai ef trwy farfolaeth ddistrowiaw, y neb y doedd a llyvodrayth marfolayth ar eu law, sef yw hwnw diawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, Efe hefyd yn y cyffelyb fodd a gymmerth ran o’r un pethau, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn oedd a chanddo allu marwolaeth, hyny yw, diafol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan fod y plant, felly, yn gyfranogion o gig a gwaed, aeth yntau hefyd mewn cyffelyb fodd yn gyfrannog ohonynt, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn a oedd yn meddu arglwyddiaeth ar farwolaeth — hynny yw, y diafol —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o'r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth — hynny ydy, y diafol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd grym dros farwolaeth, sef y diafol,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd hynny, gan fod y plant wedi cyfranogi o waed a chnawd, yntau hefyd mewn cyffelyb fodd a gyfranogodd o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dirymai efe yr hwn sydd ganddo nerth marwolaeth, hynny yw, y Diafol,