Hebrews 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal y gallay ef y ymwared hwynt y gyd oll, rrain rrac ofn marfolaeth gwbl oi bowyd oyðynt tann gaythiwed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y rhyddhaai hwynt y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddeiliaid caethiwed:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fel y rhyddhâi’r rhai oedd drwy ofn marwolaeth ar hyd eu hoes yng ngafael caethiwed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddarostyngedig i gaethiwed.