Hebrews 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hynny y dylai ef ymhob peth fod yn gyffelib yw frodyr, mal y gallai fod yn drigaroc, ac yn Archoffeiriat ffyddlawn am y pethau a berthynāt y Dduw, y ddiffoddi pechodau y bobl trwy fodloni Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am ba achos y dylai ym mhob peth Ei wneud yn gyffelyb i’w frodyr, fel y byddai yn Arch-offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau tuag at Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O ganlyniad, yr oedd yn rhaid iddo gael ei wneuthur yn debyg i’w frodyr ym mhob peth, fel y byddai dosturiol, a ffyddlon archoffeiriad yn y pethau a berthyn i Dduw, i wneuthur dyhuddiant am bechodau’r bobl;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
am ba achos y dylai ym mhob peth ei wneud yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai yn Arch‐offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau a berthynant i Dduw, er gwneuthur cymod dros bechodau y bobl: