Hebrews 2:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa fodd y diangwn ni, od esceuluswn cyfryw vavvr gadwadigaeth? rrwn pan ddechreuwyd y arddangos drwyr arglwydd y hun, a sickerhawyd y ni gan y rrai a fu yn y wrandaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pa fodd y diangwn ni, ar ol bod yn ddiofal o iachawdwriaeth mor fawr, yr hon wedi cael yn y dechreuad ei llefaru trwy’r Arglwydd, gan y rhai a glywsant y’i sicrhawyd i ni,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pa fodd y dihangwn ni os byddwn ddibris o iachawdwriaeth mor fawr? — yr hon wedi cael ei dechreuad yn ymadrodd yr Arglwydd, a gadarnhawyd i ni gan y rhai a’i clywodd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy'r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawriachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pa fodd y dïangwn ni, wedi esgeuluso iachawdwriaeth mor fawr? yn gyfryw a gafodd ar y dechreu ei llefaru trwy yr Arglwydd, a sicrhâwyd i ni gan y rhai a glywsant;