Hebrews 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr vn yn rryw fan a ddwg testioleth, gan ddoydyd, Beth yw dyn, mal y meddyliech am dano? neu vab dyn mal y darbyddech o honaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am yr hwn yr ydym yn llefaru, ond tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw le, gan ddywedyd, “Pa beth yw dyn, am i Ti ei gofio, Neu fab dyn, am i Ti ymweled ag ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tystiodd rhywun yn rhywle a dywedyd: “Beth yw dyn fel y cofit amdano? neu fab dyn fel y dalit sylw arno?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn: "Beth yw dyn, iti ei gofio, a mab dyn, iti ofalu amdano?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw fan, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio? Neu fab dyn i ti ymweled âg ef?