Hebrews 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ti ay gwnaythost ef ychydig yn is nor Angylion: a gogoniant ac vrddas y coronaist ef, ac ay gosodaist ef goruwch gweithredoedd dy ddwylaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhyw ychydig llai y gwnaethost ef nag angylion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef, A gosodaist ef ar weithredoedd Dy ddwylaw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwnaethost ef ryw ychydig yn is na’r angylion, â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti a'i gwnaethost ef ychydig is na'r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt wedi ei wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion; coronaist ef gogoniant ac anrhydedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ti a'i gwnaethost ychydig yn llai nag angelion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef; [Ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylaw ];