Hebrews 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pob peih a ddarostyngaisti tan y draed ef. Am hyn, gan ddarostwng o hono bob peth yddo, ni adawodd ef ddim heb y ðarostwng iðo. Eythr etto nid ydym yn gweled pop peth yn ostyngedic yddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob peth a ddarostyngaist tan ei draed.” Canys yn “Y darostwng pob peth iddo,” nid oedd dim a adawodd Efe heb ei ddarostwng iddo: ond yn awr nid ydym etto yn gweled mai iddo ef y mae pob peth wedi ei ddarostwng.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
darostyngaist bopeth o dan ei draed ef.”Canys wrth ddywedyd “darostwng popeth” iddo ni adawodd ddim yn annarostyngedig iddo. Ond hyd yn hyn nid ydym yn gweled popeth wedi eu darostwng.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Darostyngaist bob peth dan ei draed ef." Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef; canys mewn darostwng yr oll iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym ni eto yn gweled yr oll wedi ei ddarostwng iddo.