Hebrews 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eythr Iesu a welwn ni wedy y goroni a gogoniant ac vrddas, y neb a wnaythbwyd ychydic is nor angylion, herwydd dioddefaint marfolayth: mal y bay yddo ef trwy ras Duw brovi marfolayth dros bawb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr Hwn a “wnaed rhyw ychydig llai nag angylion” a welwn, yr Iesu, o herwydd dioddef marwolaeth, wedi Ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw tros bob dyn yr archwaethai farwolaeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am yr hwn sydd wedi ei wneuthur ryw ychydig yn is na’r angylion, yr ydym yn gweled Iesu, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y byddai profiad ei farwolaeth dros bob dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na'r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr ydym yn canfod yr hwn a wnaed ychydig yn llai nag angelion, Iesu, o herwydd dyoddefaint ei Farwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y profai flas marwolaeth dros bob un.