Hebrews 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AM hyn, vymrodyr santeidd, cyfranog ion or galwedigaeth nefawl, ystyriwch yr Abostol ac archoffeiriad eyn cyffes ni Christ Iesu:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o’r alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, frodyr a saint, chwychwi sy’n gyfrannog o’r alwad nefol, ystyriwch gennad ac archoffeiriad ein proffes ni, Iesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o'r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, frodyr a chwiorydd — chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd — meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch‐offeiriad ein Cyffes, Iesu,