Hebrews 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny y sorais wrth genedleth honno, ac a ðoydais, Y mayntw fyth yny myned ar gam yn eu caloneu, ac nid adnabuont fy ffyrth i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham y digiais wrth y genhedlaeth hon, A dywedais, Pob amser cyfeiliorni y maent yn eu calon, A hwy nid adnabuant Fy ffyrdd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, mi a sorrais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, ‘yn wastad y mae eu calonnau ar gyfeiliorn, ac nid adnabuant hwy fy ffyrdd i.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, 'Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, Yn barhaus y maent yn cyfeiliorni yn eu calon. Ac nid adnabuant fy ffyrdd;