Hebrews 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Disgwiliwch vym rodyr, rrac bod vn amser yn neb o honoch galon ddrwg, ac anffyddlon, y beri ymadel a Dyw byw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch, frodyr, rhag ysgatfydd y bydd yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan sefyll draw oddiwrth y Duw Byw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Edrychwch, frodyr, na bo gan neb ohonoch fyth ddrwg galon anghrediniaeth, mewn gwrthgiliad oddi wrth y Duw byw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn eich syrthio ymaith oddiwrth y Duw byw;