Hebrews 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr cynghorwch bawb y gilidd beunyd, tra elwer Y dyð heddiw, rrac i neb o honoch ym galedu trwy dwyll pechawd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra “Heddyw” y’i gelwir, fel na chaleder neb o honoch gan dwyll pechod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond cymhellwch eich gilydd beunydd, tra gelwir hi’n heddiw, fel na chaleder neb ohonoch gan dwyll pechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n "heddiw", rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr anogwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi Heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod.