Hebrews 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys rrai ar ol gwrandaw, y hannogasont ef‐y‐ðigio, ac etto, nid pawb ar a ðoythan or Ayfft trwy Voyses.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pwy, wedi clywed, a chwerwasant Ef? Onid yr oll a ddaethent allan o’r Aipht trwy Mosheh?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pwy, felly, wedi ei glywed, a’i chwerwodd? Onid pawb a ddaeth allan o’r Aifft trwy Foses?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhai, wedi gwrando, a'i digiasant ef: ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aifft trwy Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy, wedi clywed, a gyffroisant ei lid? onid yr oll a ddaethant allan o'r Aipht trwy Moses?