Hebrews 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
OFnwn am hynny, rrac vnrryw amser trwy wrthod addewid entrio yw orphwysfa ef, gael ar neb o honochi foddybygu eu ddiddymmu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ofnwn, gan hyny, rhag ysgatfydd, tra aros y mae addewid o fyned i mewn i’w orphwysfa Ef, ymddangos o neb o honoch i fod ar ol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ofnwn, felly, a’r addewid wedi ei gadael y cawn ddyfod i mewn i’w orffwysfa, rhag dyfarnu neb ohonoch ar ôl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i'w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly tra mae'r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i'r lle sy'n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o'n plith ni'n mynd i fethu cyrraedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ofnwn gan hynny, rhag o ddygwydd fod addewid wedi ei gadael i ni fyned i mewn i'w orphwysfa ef, i neb o honoch ymddangos ei fod wedi syrthio yn fyr o honi.