Hebrews 4:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys byw iol yw gair Dyw, a’ nerthol ei waith, a’ llymach nac vnrryw gleddau‐daufiniog, ac a gyrydd hyd at wahaniad yr enaid, a’r ysbryd, ar cymalau, a’r mer, a’ barnwr yw y meddyliau a’ bwriadau yr galon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys byw yw gair Duw, a gwneuthurol, a llymmach nag un cleddyf dau-finiog, ac yn myned trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, a chymmalau a mer, ac yn medru barnu meddyliau a bwriadau y galon;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys byw yw gair Duw, a llawn ynni, a llymach nag un cleddyf deufin, ac yn treiddio hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr, ac yn farnwr ar amcanion a meddyliau’r galon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf, ac yn treiddio'n ddwfn o'n mewn, i wahanu'r enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr. Mae'n barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys byw yw Gair Duw, ac effeithiol, a llymach nag un cleddyf dau‐finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, cymalau a mêr hefyd, ac yn medru barnu dymuniadau a meddyliau y galon;