Hebrews 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nid oes vn creadur anamlwg yn y olwc ef: eythr bot pob peth yn noeth ac egored yw lygaid ef, am y rrwn y ddym ni yn son.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid oes creadur yn anamlwg yn Ei olwg Ef, ond pob peth sydd yn noeth ac yn agored i lygaid yr Hwn y mae genym a wnelom ag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid oes dim a grewyd yn anweledig yn ei ŵydd, ond y mae popeth yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef, yr hwn yr ydym ni yn gyfrifol iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim byd drwy'r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e'n gweld popeth yn glir. A dyma'r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid oes creadur yn anamlwg yn ei olwg ef, eithr y mae pob peth yn noeth ac yn agored i lygaid yr hwn y mae gennym i roddi cyfrif iddo.