Hebrews 4:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y ni pregethwyd yr Evengel mal vddyntwythe: eithr ni thykioð vddynt wy y gair a glowid, am nad oeð wedy eu gydwascu a ffydd yn y rrai ay clywsont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr ydym a’r newyddion da genym fel hwythau; eithr ni leshaodd y gair a glybuwyd, iddynt hwy heb eu cyd-gymmysgu mewn ffydd â’r rhai a’i clywsant:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys i ninnau hefyd megis iddynt hwy y daeth y newyddion da, ond nid elwasant hwy ar y gair a glywsant am nad oedd wedi ei gydrywiogi, drwy ffydd, â’r rhai a glywodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i'r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd 'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys efengylwyd i ninnau megys i hwythau; ond y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oeddynt hwy wedi eu cyd‐dymheru trwy ffydd â'r rhai a glywsant.