Hebrews 4:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nine yn wir y rrai a gredasom, sy yn entrio ir orphoysfa, megis ac ydyvod ef wrth y llaill, Val hyn y tyngais yn fynniclloni, Os caffāt wy entrio ym gorsswyffa: cyd bayr gwaith wedi y berffeithio o amser gosodiad growndwal y byd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys myned i mewn i’r “Orphwysfa” yr ydym ni y rhai a gredasom, fel y dywedodd Efe, “Fel y tyngais yn Fy llid, Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa,” ac er hyny y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er’s seiliad y byd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr ydym ni, y rhai a gredodd, yn myned i mewn i’r orffwysfa fel y mae’r gair, “Am hynny y tyngais yn fy llid, ‘Ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’ ”;ac eto y mae’r gwaith wedi ei orffen er seiliad y byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol 'r hyn a ddywedodd: "Felly tyngais yn fy nig, 'Ni chnt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'" Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r Orphwysfa, fel y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa, Er fod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.