Hebrews 4:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefn may yn rracderfynn rryw ðydd, gan ddoydyd trwy ddavydd Heddiw, ar ol cymaint o amser, megis y doytbwyd, Heðiw o gwrandewch y lais ef, na chaledwch ych caloneu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fyned i mewn o herwydd anufudd-dod, trachefn y penna Efe ryw ddydd, gan ddywedyd, “Heddyw,” yn Dafydd, ar ol cymmaint o amser, fel y rhag-ddywedwyd, “Heddyw, os Ei lais a glywoch, Na chaledwch eich calonnau;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y mae ef drachefn yn pennu rhyw ddiwrnod, heddiw, drwy ddywedyd yn Nafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dywedwyd o’r blaen, “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef "Heddiw", gan lefaru trwy Ddafydd ar l cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch chaledu'ch calonnau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y mae efe drachefn yn pennu rhyw ddydd, Heddyw, gan ddywedyd yn Dafydd, ar ol cymaint o amser, megys y dywedwyd o'r blaen, Heddyw, os clywoch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau.