Hebrews 5:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn ys pob Archeffeiriad o blith dynyon y cymerir ef, a’ thros dynion y gosodir ef, yn y pethau sy tu ac at Ddyw, y offrymmu a’rrodion ac aberthau tros pechodau,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pob arch-offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymmerir, tros ddynion y gosodir yn y pethau sy tuag at Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pob archoffeiriad, o ddynion y cymerir ef, a thros ddynion y gosodir ef yn y pethau a berthyn i Dduw i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi ei benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob Arch‐offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymerir, a benodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau,