Hebrews 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am yr rwn may y ni lawer yw ddoydet, sy anhawdd y manegi, achos ych bod chwi yn fuscrell ych clustiau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac am dano Ef llawer gair sydd genym i’w ddywedyd ac anhawdd ei ddehongli, gan mai hwyr-drwm yr aethoch yn eich clyw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hwn y mae gennym lawer i’w ddywedyd sydd yn anodd ei egluro gan eich bod wedi myned yn drwm eich clyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am yr hwn y mae i ni lawer i'w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac am dano ef y mae gennym lawer gair i'w ddywedyd ac anhawdd ei ddeongli, am eich bod wedi myned yn hwyr‐drwm eich clustiau;