Hebrews 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys lle y dyleychi herwydd amser fod yn athrawon, rraid yw drachefn ddyscu i chwi beth ydiw deunyddiau dechreuad ymadroðion Dyw: ac aythoch yn rraid ywch wrth layth, ac nid bwyd ffyrf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu o ryw un i chwi egwyddorion dechreuad oraclau Duw, ac aethoch i fod a rhaid i chwi wrth laeth ac nid wrth fwyd cryf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pan ddylech, yn ôl amser, fod yn athrawon, y mae arnoch eisiau eto rywun i ddysgu i chwi elfennau cyntaf oraclau Duw, ac y mae hi wedi dyfod yn eisiau llaeth arnoch ac nid bwyd sylweddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn angen rhywun i ddysgu i chwi elfennau egwyddorion cyntaf Oraclau Duw, ac aethoch yn rai y mae arnoch angen llaeth, ac nid bwyd cryf.