Hebrews 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Achos pawb a ymarfero a llaeth, anghynefin yw a gair y cyfiownder: can ys maban yw yw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pob un y sy’n cyfrannogi o laeth, heb ymarferiaeth o air cyfiawnder y mae,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae’r neb sydd yn byw ar laeth yn anghyfarwydd ag athrawiaeth cyfiawnder, oherwydd baban ydyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pob un a'r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r un sy'n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy'n iawn — mae fel plentyn bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob un a'r sydd yn cyfranogi o laeth, dibrofiad yw o air cyfiawnder; canys maban yw.