Hebrews 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrwn yn y dyddiau y gnawd ef a offerymmoð trwy levain a dagre, weddiau ac ytolygon at yr hwn, ydoeð abl yw achub ef o ddiwrth farfolaeth, ac a wrandawyd y peth y roedd yn i ofni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Hwn, yn nyddiau Ei gnawd, gwedi offrymmu gweddïau ac erfyniau at yr Hwn oedd abl i’w achub Ef oddiwrth farwolaeth, gyda llefain cryf a dagrau, a chael Ei wrandaw o herwydd Ei ofn duwiol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn nyddiau ei gnawd, offrymodd hwn ag uchel lef a dagrau, weddïau ac ymbiliau i’r hwn a allai ei wared ef rhag angau, a chael gwrandawiad o achos ei barchedig ofn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i'w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, wedi iddo gyda llefain cryf a dagrau offrymu deisyfiadau ac ymbiliau at yr hwn oedd alluog i'w achub o farwolaeth, a chael ei wrandaw o herwydd ei ofn duwiol,