Hebrews 6:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
OR achos hwn, rrown heibio yr addysc sy yn dechrau Christ, a thynnwn at perffeithrwydd, ac na ’ossodwn eilwayth growndwal y difeirwch o ddiwrth g weithredoedd meirwon, a’ ffyð tu a Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wedi rhoddi heibio air dechreuad Crist, at berffeithrwydd dyger ni, heb osod i lawr drachefn sail edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tuag at Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, gan adael y wers gyntaf am y Crist, gyrrwn ymlaen at y llawn dyfiant, heb ailosod sylfaen o edifeirwch am weithredoedd meirwon ac o ffydd ar Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto — yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, gadewch inni ymadael 'r athrawiaeth elfennol am Grist, a mynd ymlaen at y tyfiant llawn. Ni ddylem eilwaith osod y sylfaen, sef edifeirwch am weithredoedd meirwon, a ffydd yn Nuw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, gan adael heibio yr ymadrodd dechreuol am y Crist, dyger ni ymlaen at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn i ni ein hunain sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tu ag at Dduw,