Hebrews 6:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nid anghyfion Dyw, mal y gollyngo tros gof ych gwaith, a’r llafur us gariad, a ddangosasoch yn y enw ef, yn gwneuthyr ir saint wasaneth, ac eto yn y gwasneuthu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid anghyfiawn yw Duw, fel yr anghofio eich gwaith a’r cariad a ddangosasoch tuag at Ei enw, pan weiniasoch i’r saint, ac yn gweini iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofiaf eich gwaith chwi a’r cariad a ddangosasoch at ei enw ef wrth weini i’r saint, a dal i weini.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofio eich gwaith a'r cariad a ddangosasoch tu ag at ei enw ef, pan weiniasoch i'r saint, ac y parhêwch i weini.