Hebrews 6:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can yn lle g wir dynion tyngu byddant ir neb a vo mwy nag ynhvvy hunain, a’ diwedd pob ymryson vddyntwy ydiw llw y gadarnhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dynion myn un a fo mwy a dyngant; ac iddynt hwy, terfyn pob ymryson, er cadarnhad, yw’r llw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys wrth un sydd fwy y bydd dynion yn tyngu, ac iddynt hwy diwedd pob dadl i gadarnhau’r mater ydyw’r llw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi ei ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy, ac y mae y llw yn derfyn iddynt hwy ar bob gwrth‐ddywedyd hyd at sicrhâd.