Hebrews 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis trwy ddau beth disymmut, yn yr rrai y may yn amhossibl y Ddyw fod yn gelwyðog, y gellem gael cysur cryf, rrain ydym yn daredec y ddala yn dynn y gobaith rag‐osodedic,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gyfryngodd â llw, fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai ammhosibl yw celwyddu o Dduw, annogaeth cryf fyddai genym ni a ffoisom, i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel drwy ddwy weithred ddianwadal — y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt — y caffom ni galondid cryf, y rhai a ffodd i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw — dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi ei roi i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai y mae yn amhosibl i Dduw ddywedyd celwydd, y gallem ni gael calondid cryf, y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen,