Hebrews 6:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y ddaiar a ddar yfo y glaw a vo yn mynych ddyvot arnei, ac a ddyco lyssiau addas ir rai drwy bwy y ddys yn y llafurio, a gymer fendith can Ddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y ddaear yr hon sy’n yfed y gwlaw sy’n dyfod yn fynych arni, ac sy’n dwyn llysiau cymmwys i’r rhai hyny er mwyn y rhai y llafurir hi hefyd, derbyn bendith gan Dduw y mae;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys tir yn yfed y glaw a ddaw’n fynych arno ac yn dwyn llysiau addas i’r rhai y trinir ef hefyd er eu mwyn, y mae hwnnw yn cyfranogi o fendith gan Dduw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r ddaear, sy'n llyncu'r glaw sy'n disgyn arni'n fynych, ac sy'n dwyn cnydau addas i'r rhai y mae'n cael ei thrin er eu mwyn, yn derbyn ei chyfran o fendith Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y tir yr hwn a yfodd y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arno, ac sydd yn dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir ef erddynt, sydd yn derbyn bendith oddiwrth Dduw;