Hebrews 6:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr fyn garedigion, coelio y ddydym am danoch i bethau sy wel’ no hyn, ac sy wedi y cydglymmu ac iechid, ir yn bod ni yn doydyd val hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond coelio yr ydym am danoch chwi, frodyr, y pethau sydd well ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oeddem ni’n hyderu amdanoch chwi, rai annwyl, bethau gwell ac yn perthyn i iachawdwriaeth, er ein bod yn siarad fel hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi — bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er ein bod yn siarad fel hyn, yr ydym yn argyhoeddedig, gyfeillion annwyl, fod pethau gwell yn eich aros chwi, pethau sy'n perthyn i iachawdwriaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr ydym yn llawn gredu am danoch chwi, anwyliaid, y pethau gwell ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn.