Hebrews 7:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn ys y Melchisedec hwn brenin Salem ydoeð, effeiriat Dyw goruchaf, rrwn a ddoeth y gyfarfod ac Abraham, wrth yddo ddymchwelud o ddiwrth laddfa yr brenhinoeð, ac ay bēdi gawð ef:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y Melchitsedec hwn, brenhin Shalem, offeiriad Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham yn dychwelyd o ladd y brenhinoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham ar ei ffordd o daro’r brenhinoedd ac a’i bendithiodd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Brenin Salem oedd Melchisedec, ac offeiriad i'r Duw Goruchaf. Pan oedd Abraham ar ei ffordd adre ar ôl gorchfygu nifer o frenhinoedd mewn brwydr, daeth Melchisedec ato. Dyma Melchisedec yn bendithio Abraham,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfarfu'r Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad i'r Duw Goruchaf, ag Abraham wrth iddo ddychwelyd o daro'r brenhinoedd, a bendithiodd ef;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu âg Abraham yn dychwelyd o ddymchweliad y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef;