Hebrews 7:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Os ydoedd gan hynny perffeithrwydd trwy offeiriadaeth Leui (oblegid can honno y sikerhawdd y gyfraith ir bobl) pam raid ymhellach no hynny, godi effeiriad arall, ar ol ordr Melchi‐sedec, nis gelwid ar ol ordr Aaron?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pe buasai, gan hyny, berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd, (canys dani hi y bu i’r bobl dderbyn y Gyfraith,) pa raid oedd mwyach am, yn ol dull Melchitsedec, i arall gyfodi yn offeiriad, ac nad yn ol dull Aaron y’i gelwid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os oedd felly berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd — canys ar sail hon y rhoddwyd cyfraith ar y bobl — pa raid wedyn oedd i offeiriad arall godi yn ôl urdd Melchisedec, ac nid ei enwi yn ôl urdd Aaron?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i'r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl pa angen pellach oedd i sn am offeiriad arall yn codi, yn l urdd Melchisedec ac nid yn l urdd Aaron?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oedd, gan hynny, berffeithiad trwy yr offeiriadaeth Lefiticaidd (canys ar ei sail hi y derbyniodd y bobl y Gyfraith), pa raid mwyach oedd i offeiriad gwahanol gyfodi yn ol urdd Melchisedec, ac nid i'w alw yn ol urdd Aaron?