Hebrews 7:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ysbys yw, may o Iuda y may yn harglwydd ni yn dyvot, am y llwyth hwnw ni ðyvod Moses ddim tu ac at yr effeiriadaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o’r hwn nid oedd neb a wasanaethodd yr allor; canys eglur yw mai o Iwdah y cododd ein Harglwydd, am yr hwn lwyth, o ran offeiriaid, ni fu i Mosheh lefaru dim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae’n hysbys i bawb mai o Jwda yr hanoedd ein Harglwydd ni, llwyth na chyfeiriodd Moses ato ar fater offeiriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â'r offeiriadaeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae'n gwbl hysbys fod ein Harglwydd ni yn hanu o lwyth Jwda, llwyth na ddywedodd Moses ddim am offeiriad mewn perthynas ag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys tra‐amlwg ydyw mai o Juda y mae ein Harglwydd ni wedi cyfodi, am yr hwn lwyth ni lefarodd Moses ddim gyda golwg ar offeiriaid.