Hebrews 7:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ny wnaeth y gyfraith ðim perffeithrwyð, namyn dyvodiad y gobaith gwell a berffeithiodd, drwy yr hwn y ddym yn nesau at Ddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dwyn i mewn obaith gwell, trwy’r hwn yr ydym yn nesau at Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ni ddaeth y gyfraith â dim byd i ben — ond dygir i mewn, yn ei le, obaith gwell, yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi ei roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesu at Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(oblegyd ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim), ac ar y llaw arall, dygiad i mewn ar hynny obaith gwell, trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.