Hebrews 7:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid cyfryw Archoffeiriad oedd weddus y ni y gael, ysy santaidd, diddrwg, dilwgr, wedi y neilltuo oddiwrth pechaduriaet, ac wedy i wneuthur yn uwch nor nefoedd:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y cyfryw a weddai i nyni yn Arch-offeiriad, yn sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid, ac wedi Ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dyma’r fath archoffeiriad oedd hefyd yn addas inni, un santaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, wedi dyfod yn uwch na’r nefoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd, oedd weddus i ni;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'r math o Archoffeiriad sydd ei angen arnon ni — un sydd wedi cysegru ei hun yn llwyr, heb bechu o gwbl na gwneud dim o'i le, ac sydd bellach wedi ei osod ar wahân i ni bechaduriaid. Mae e yn y lle mwya anrhydeddus sydd yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r math o archoffeiriad sy'n addas i ni, un sanctaidd, di-fai, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei ddyrchafu yn uwch na'r nefoedd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y fath Arch‐offeiriad a weddai i ninnau, sanctaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddiddoli oddiwrth y pechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd;