Hebrews 7:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr rrwn nid oedd rraid yddo beunydd, megis ir effeiriaid hyny: yn gynta trostynt y hunain offrymu aberthau tros pechodau, wedi hynny tros pechoteu y bobl: cans hynny a wuaeth ef vnwaith, pan offrymmodd ef y hun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn sydd heb Ganddo bob dydd anghenrhaid, fel yr arch-offeiriaid, i offrymmu aberthau, yn gyntaf am Ei bechodau Ei hun, a chwedi’n am yr eiddo’r bobl, canys hyn a wnaeth Efe unwaith am byth pan Ef Ei hun yr offrymmodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nad oes raid arno beunydd, fel yr archoffeiriaid, offrymu’n gyntaf aberthau dros ei bechodau ef ei hunan, ac yna dros bechodau’r bobl. Canys hyn a wnaeth ef unwaith am byth pan offrymodd ef ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i'r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo'r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wahanol i bob archoffeiriad arall, does dim rhaid i hwn gyflwyno'r un aberthau ddydd ar ôl dydd. Roedd rhaid i'r archoffeiriaid eraill gyflwyno aberth dros eu pechodau eu hunain yn gyntaf ac yna dros bechodau'r bobl. Ond aberthodd Iesu ei hun dros ein pechodau ni un waith ac am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
un nad oes rhaid iddo yn feunyddiol, fel yr archoffeiriaid, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros rai'r bobl. Oblegid fe wnaeth ef hyn un waith am byth pan fu iddo'i offrymu ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn ni raid iddo o ddydd i ddydd, fel yr Arch‐offeiriaid, offrymu aberthau, yn gyntaf am ei bechodau ei hun, yna dros bechodau y bobl; canys hyn a wnaeth efe unwaith am byth pan offrymodd ei hun.