Hebrews 7:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y gyfraith sy yn gosod dynion yn archoffeiriaid, ac anallu arnynt: eithyr gair y Llw yr hwn a vu gwedy y Gyfraith, a vvna y Map, yr hwn, a gyssecrwyt yn dragyvyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y Gyfraith sy’n gosod dynion yn arch-offeiriaid, a chanddynt wendid; ond gair y llw sydd wedi’r Gyfraith, a osododd y Mab, yr Hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae’r gyfraith yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt yn archoffeiriaid, ond gair y llw sydd ar ôl y gyfraith, [y mae hwnnw yn gwneuthur] Mab, wedi ei berffeithio yn dragywydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi'r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dan drefn y Gyfraith Iddewig dynion cyffredin gyda'i holl wendidau sy'n cael eu penodi'n archoffeiriaid. Ond mae'r cyfeiriad at Dduw yn mynd ar lw wedi ei roi ar ôl y Gyfraith Iddewig, ac yn sôn am Dduw yn penodi ei Fab yn Archoffeiriad, ac mae hwn wedi gwneud popeth oedd angen ei wneud un waith ac am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r Gyfraith yn penodi yn archoffeiriaid ddynion sy'n weiniaid, ond y mae geiriau'r llw, sy'n ddiweddarach na'r Gyfraith, yn penodi Mab sydd wedi ei berffeithio am byth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae y Gyfraith yn penodi dynion yn Arch‐offeiriaid a chanddynt wendid, ond y mae gair y llw, yr hwn sydd wedi'r Gyfraith, yn penodi y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragwyddol.