Hebrews 7:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Heb dad, heb vam, heb genedl, nid oes yddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes: eythr a gyfflybir y vab Dyw, ac a erys yn effeiriad yn dragwyddawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hyn yw Brenhin heddwch; heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes, ond wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw,) aros yn offeiriad y mae yn barhaus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid oes ganddo dad na mam nac achau, na dechrau dyddiau na diwedd einioes, ond y mae wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw — y mae hwn yn para yn offeiriad am byth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yntau heb dad, heb fam, a heb achau, nid oes iddo na dechrau dyddiau na diwedd einioes; ond, wedi ei wneud yn gyffelyb i Fab Duw, y mae'n aros yn offeiriad am byth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
heb dâd, heb fam, heb achyddiaeth, heb fod ganddo na dechreu dyddiau na diwedd einioes, eithr wedi ei gyffelybu i Fab Duw, efe a erys yn offeiriad i fythol barhad.