Hebrews 7:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar rreini yn wir sy o feibion Levi, yn derbyn svvydd yr effeiriadaeth, may centhynt orchymyn y gymerud, degwn gan y bobl, ar ol y gyfraeth (sef yw gan eu brodyr) ir y bod gwedi dyfod o lwynay Abraham.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai o feibion Lefi y sy’n derbyn swydd yr offeiriadaeth, gorchymyn sydd ganddynt i gymmeryd degwm gan y bobl yn ol y Gyfraith, hyny yw, gan eu brodyr, er wedi dyfod o honynt o lwynau Abraham;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr am y rhai o feibion Lefi sy’n derbyn yr offeiriadaeth, y maent hwy dan rwymau i godi’r degwm yn ôl y gyfraith ar y bobl, hynny yw, ar eu brodyr eu hunain, er bod y rheiny wedi dyfod allan o lwynau Abraham.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy'n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain — disgynyddion Abraham.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn l y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn wir y rhai sydd o feibion Lefi yn derbyn yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i ddegymu y bobl yn ol y Gyfraith, hynny yw, eu brodyr eu hunain, er eu bod wedi dyfod allan o lwynau Abraham.