Hebrews 7:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eythr yr hwn ni hanoedd i genhedlayth o honyntwy, a gymerawdd ddegwn gan Abraham, ac a fendigawdd yr hwn y gwneithyd yr addewid yddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr hwn nad oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham; ac yr hwn oedd a’r addewidion ganddo, a fendithiodd efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond hwn, er nad oedd o’u hach hwy, cododd ei ddegwm ar Abraham, a bendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr hwn nid oedd ei achyddiaeth o honynt hwy a ddegymodd Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.