Hebrews 7:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yma dynion y rrai a fyddant feirw, a gymerant ddegwn: eythr yno y derbyn yr hwn y testaleithir am dano y fod ef yn vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yma yn wir, dynion y sy’n marw a dderbyniant ddegymmau; ond yno, yr hwn y tystiolaethir iddo mai byw y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yma marwolion sydd yn derbyn degwm, — ond yno, un y tystir amdano ei fod yn dal i fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yma dynion a'r sydd yn marw sydd yn derbyn degymau, ond yno, tystiolaethir iddo ei fod yn fyw.