Hebrews 8:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid hwn yw yr Testament a wnaf a thy Israel, ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, myvi a ddoda fyngyffreithiau yn eu meddwl, ac yn y calonau yr yscrivenaf, a’ mi a fydd y Dyw hwynt, ac wyntwthe fyddant fymhobl inau,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys hwn yw’r cyfammod a ammodaf â thŷ Israel Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah; Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu meddwl, Ac ar eu calonnau yr ysgrifenaf hwynt; A byddaf iddynt yn Dduw, A hwy a fyddant i Mi yn bobl:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys hwn yw’r cyfamod a osodaf i dŷ Israel, ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd. Rhoddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl hwynt ac ar eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt. A byddaf iddynt yn Dduw, a byddant hwythau i mi yn bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid hwn yw'r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd: ‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r cyfamod a wnaf thu375? Israel ar l y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac ysgrifennaf hwy ar eu calon. A byddaf yn Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd hwn yw y cyfamod a amodaf â thŷ Israel Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu meddwl, Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu calon; A byddaf iddynt yn Dduw, A hwythau a fyddant i minnau yn bobl: