Hebrews 8:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ni ddysc pop vn ei gymydawc, a’ phop vu ey frawd, gan ddoydet, Ednebydd yr Arglwydd, o blegid hwynt am ednabyddant i y gyd oll, or lleiaf o hanynt byd y mwyaf o honynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ni ddysgant bob un ei gyd-ddinesydd, A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd Iehofah, Canys pawb a’m hadnabyddant, O’r lleiaf hyd eu mwyaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mwyach ni ddysgant bob un ei gymydog a phob un ei frawd, a dywedyd, ‘Adnebydd yr Arglwydd,’ Canys bydd pawb yn f’adnabod o fach hyd fawr ohonynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt‐hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, “Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,” achos bydd pawb yn fy nabod i, o'r lleia i'r mwya.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gyd-ddinesydd a phob un ei gilydd, gan ddweud, 'Adnebydd yr Arglwydd.' Oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni ddysgant bob un ei gyd‐ddinesydd, A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd, canys pawb a'm hadnabyddant i, O fychan i fawr o honynt.