Hebrews 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Lle may ef yn doyded Testament newydd, may yn bwrw heibio yr hen, velly yr hyn a roir heibio ac a heneiddio, may yn agos y ddiflanu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrth ddywedyd, “ Cyfammod newydd,” gwnaeth y cyntaf yn hen; a’r hwn sy’n myned yn hen ac yn oedrannus, agos i ddiflannu y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth ddywedyd “newydd,” y mae wedi cyhoeddi’r cyntaf yn hen. Ac y mae’r peth a gyhoeddir yn hen ac sydd yn oedrannus yn ymyl ei dranc.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ddweud "cyfamod newydd", y mae wedi dyfarnu'r cyntaf yn hen; ac y mae'r hyn sy'n mynd yn hen ac oedrannus ar fin diflannu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, y mae efe wedi gwneuthur y cyntaf yn hen; canys y mae yr hyn sydd yn heneiddio ac yn oedrannus yn agos i ddiflaniad.