Hebrews 8:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pob archeffeiriad a osodir y offrymmu rrodion ac aberthau: ac am hyny y ðydoeð rraid, bod can hwn hefyt beth yw offrwmu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pob archoffeiriad, i offrymmu rhoddion ac aberthau y’u gosodir; a chan hyny, rhaid oedd bod gan Hwn hefyd ryw beth a offrymmai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, pob archoffeiriad, i offrymu rhoddion ac aberthau y penodir ef, ac felly rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i’w offrymu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob Arch‐offeiriad a benodir i offrymu rhoddion ac aberthau: o herwydd paham rhaid bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma.