Hebrews 8:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain sy yn gwasneuthu portryad, a chysgod pethau nefawl, megis or nefoedd yr attebwyd y Voyses, pan oeð yn amcanu gorphen y tabernacl. Edrych hagen, heb ef, ar wneuthyr o honoti bob peth ar ol y portryat a ddangoswyd yti yn y mynydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai sy’n gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, fel y rhybuddiwyd Mosheh pan ar fedr gorphen y Tabernacl; canys, “Gwel,” medd Efe, “ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac i ddarlun a chysgod y pethau nefol y mae’r rhain yn gweini, fel y gorchmynnwyd i Foses pan oedd ar godi’r tabernacl. Canys “Gwêl,” meddai, “wneuthur ohonot bopeth yn ôl y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn l y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. "Gofala," meddai Duw, "y byddi'n gwneud pob peth yn l y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn gyfryw ag sydd yn gwasanaethu darlun a chysgod y pethau nefol, megys y dadguddiwyd i Moses pan oedd ar fedr gosod i fyny y Tabernacl; canys, Gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y Mynydd.