Hebrews 8:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yn awr ir ayth yn archeffeiriad ni a swydd mwy rragorawl, o gimaint ac i may yn gyfryngwr Testament gwell, rrwn sy wedi y ’osod ar addaweidion gwell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yn awr, gweinidogaeth mwy rhagorol a gafodd Efe, o gymmaint ag i gyfammod gwell y mae yn Gyfryngwr, yr hwn a ddeddf-osodwyd ar addewidion gwell.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr cafodd ef amgenach gweinidogaeth, yn gymaint â’i fod yn gyfryngwr gwell cyfamod a sefydlwyd ar bwys gwell addewidion;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un — mae wedi ei wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae hefyd yn Gyfryngwr Cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei ddeddf‐osod ar addewidion gwell.