Hebrews 8:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid ar ol y Testament a wneuthym i ay taday hwynt, yn y dydd yr ymeilais i yn y llaw hwynt, yw dwyn o dir ir Aipht: can ys ni thrigasont wy yn y Testament mau fi, a minau ay eskeulusais hwynt, medd yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid yn ol y cyfammod a wnaethum â’u tadau Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i’w dwyn o dir yr Aipht; Canys hwy nid arhosasant yn Fy nghyfammod, Ac Myfi a’u hesgeulusais, medd Iehofah.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid yn ôl y cyfamod a wneuthum i’w tadau hwynt yn y dydd y gafaelais yn eu llaw hwynt i’w harwain allan o dir yr Aifft am nad arosasant hwy yn fy nghyfamod i, a minnau a fûm ddibris ohonynt, medd yr Arglwydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn hwy o dir yr Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Wnaethon nhw ddim cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’ meddai'r Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum 'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft, oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i. A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid yn ol y Cyfamod yr hwn a wnaethum â'u Tadau, Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn hwy o dir yr Aipht, oblegid nid arhosasant hwy yn fy nghyfamod i, A minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd.