Hebrews 9:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eythyr Christ yn dyfod yn archeffeiriad y dayoni rrag llaw, trwy dabernacl fwy a’ pherffeithiach, nid o waith dvvy llaw, sef yw hynny nid or edeiladeth yma,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Crist wedi dyfod, Arch-offeiriad y pethau da i ddyfod, trwy’r tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond Crist, wedi dyfod gerbron yn archoffeiriad y pethau da a gafwyd — drwy well a pherffeithiach pabell, nid o waith llaw (hynny yw, nid o’r cread hwn),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni'r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi eu profi. Mae e wedi mynd drwy'r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i'r byd hwn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon),
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Crist wedi dyfod atom, fel Arch‐offeiriad y daionus bethau i ddyfod, trwy y tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r greadigaeth hon;